Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

Ymchwiliad i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Inquiry into Mental health in Policing and Police Custody

HSCS(5) MHP16

Ymateb gan The Wallich

Evidence from The Wallich

Iechyd meddwl a phlismona: ymateb gan Y Wallich

Deunydd a gyflenwyd gan staff a chleientiaid Wallich

Cydlynwyd yr ymateb gan XXXX Cydlynydd Ymchwil

Yn Y Wallich, mae cysylltiad staff a chleientiaid â’r heddlu’n amrywio, yn ddibynnol ar natur y ein prosiect. Gall ein grŵp cleientiaid ddod i gysylltiad â swyddogion gorfodi’r gyfraith yn rheolaidd, ac mae’n hanfodol bod pobl agored i niwed yn cael eu trin yn briodol yn ystod y cysylltiadau hyn, boed hwy yn y ddalfa neu beidio.

Mae’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad yn cyflwyno gwybodaeth a gafwyd gan wahanol aelodau staff ac mae’n seiliedig ar eu profiad o weithio i’r Wallich.

Ymatebion o Abertawe:

1). Mae gennym un cleient ar hyn o bryd ag anghenion diagnosis deuol a phroblemau iechyd meddwl difrifol. Mae wedi bod yn rhoi ei hun mewn perygl, ac arweiniodd hynny at ei chadw o dan Adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl; fodd bynnag cafodd ei rhyddhau am ei bod wedi bod yn yfed alcohol. Mae hyn wedi digwydd sawl gwaith, ond nid yw’r heddlu wedi ei harestio oherwydd gorchymyn y Rhingyll ar ddyletswydd.

Ar un achlysur, defnyddiodd yr heddlu efynnau dwylo a thraed ar y cleient, cyn mynd â hi’n ôl i’w fflat am nad oeddent yn gallu defnyddio gorsaf yr heddlu fel man diogel. Yn anffodus, nid yw timau iechyd meddwl, am ryw reswm (capasiti fwy na thebyg), yn dod i wybod am yr achosion dylent fod yn gwybod amdanynt, sy’n rhoi pwysau ar yr heddlu, sydd heb yr wybodaeth na’r ddealltwriaeth angenrheidiol am y grŵp cleientiaid. Mae’r prosiect yn ceisio cryfhau’r berthynas â’r heddlu, gydag ymweliadau rheolaidd gan Swyddog Cymorth yr Heddlu a chysylltiadau rheolaidd â’r rhingyll lleol.

2). Roedd gan gleient mewn prosiect preswyl yn Abertawe broblemau iechyd meddwl difrifol ac roedd yn gwneud bygythiadau rhyfedd yn aml i’r staff. Oherwydd ei ymddygiad bygythiol, ac ar ôl i feddyg teulu’r cleient wrthod dod i’w asesu, cafodd yr heddlu eu galw. Daeth dau blismon ac aethpwyd ag ef i’r swyddfa i siarad ag ef, heb ddim staff yn bresennol, yna aethpwyd ag ef i’r swyddfa heddlu leol. Ychydig oriau’n ddiweddarach cafodd ei ddychwelyd i’r prosiect fel pe na bai dim wedi digwydd.

3). Yn ddiweddar, bu’n rhaid i staff prosiect y Wallich yn Abertawe alw’r tîm iechyd meddwl brys i ymweld â phreswylydd benywaidd. Mae gan y cleient broblemau iechyd meddwl sydd gan amlaf yn arddangos ei hun ar ffurf sylwadau a storïau rhyfedd. Nid yw’n fodlon gwneud dim â’r tîm iechyd meddwl lleol, na chaniatáu i staff ei hatgyfeirio, am nad yw’n credu bod ganddi broblemau iechyd meddwl. Mae staff y Wallich yn deall nad yw’n ddoeth i herio ei storïau na’r hyn mae’n ei gredu sy’n wir.

Galwyd ar yr heddlu yn y gobaith y byddai’r preswylydd yn cael ei chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, gan fod ei symptomau’n gallu achosi trafferthion mawr yn y prosiect. Cyrhaeddodd yr heddlu’n hwyr fin nos pan oedd y cleient yn gwylio’r teledu; nid oedd dim problemau ar y pryd, felly gadawodd yr heddlu. Dywedodd y staff nos a oedd ar ddyletswydd nad oedd gan yr heddlu unrhyw syniad pam eu bod wedi’u galw.

Mae staff yn Y Wallich yn datblygu dealltwriaeth dda o’n preswylwyr ar ôl i ni gael yr amser i feithrin perthynas waith dda â hwy; nid ydym yn weithwyr iechyd meddwl, ond rydym yn ymgysylltu â phobl o ddydd i ddydd ac yn cael syniad da o’u problemau. Byddai deall yn well sut mae unigolion yn cael eu helpu gan dimau iechyd meddwl, a sut mae’r heddlu’n delio â hwy, yn fantais fawr i ni. Rydym yn sylweddoli bod rôl yr heddlu’n wahanol i’n rôl ni, a bod y cyfyngiadau ar eu hadnoddau’n wahanol.

Mae asiantaethau iechyd meddwl yn gwrthod asesu oni bai bod client yn fodlon cael ei atgyfeirio; gall cleientiaid fod mewn trallod ac o dan ddylanwad sylweddau pan fyddant yn gofyn am help. Fodd bynnag, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn disgwyl iddynt fod yn ‘lân’ – sy’n golygu pan fydd rhywun eisiau ac angen y gwasanaeth fwyaf, nid ydynt yn ei gael. Mae’r rhestrau aros yn fisoedd ac erbyn y bydd apwyntiadau ar gael, efallai na fydd y cleient mewn argyfwng. Byddwn yn tybio bod yr heddlu’n profi’r un problemau ac anawsterau. Mae angen i ni i gyd gydweithio’n fwy effeithiol.

Ymateb gan brosiect BOSS yn Ne Cymru:

Mae prosiect BOSS yn gweithio â rhai sy’n gadael y carchar, a phobl sy’n dynesu at ddyddiad eu rhyddhau o’r carchar. Mae staff BOSS yn helpu cleientiaid i ddod o hyd i waith. O ganlyniad mae staff prosiect BOSS yn ymgysylltu â chleientiaid yn y carchar ac yn y gymuned. Mae’r sylwadau hyn yn seiliedig ar brofiadau o ddelio â chleientiaid yn y carchar yn hytrach na gyda’r heddlu, ond bydd rhai pwyntiau perthnasol sy’n gymwys i’r ddau gyd-destun.

Drwy ein profiad o weithio mewn carchardai, rydym yn gweld bod prinder triniaethau iechyd meddwl priodol ar gael. Rydym wedi gweld hyn drosom ein hunain; a thrwy sgyrsiau ag eraill rydym wedi clywed bod mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a meddyginiaethau priodol yn wael. Mae’r broses o gael apwyntiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer diagnosis posibl pan yn y carchar yn un faith. Ar ôl cyrraedd carchar y tro cyntaf gall gymryd sawl wythnos i gael presgripsiwn, hyn yn oed os oedd y carcharor yn ei gael cyn mynd i’r carchar, ac mae hyn yn rhwym o waethygu cyflwr eu hiechyd meddwl.

Rydym hefyd wedi gweld dynion yn y carchar sy’n amlwg yn dioddef o byliau seicotig yn cael eu gadael heb feddyginiaeth, sy’n cael eu bwlio gan garcharorion eraill a staff, yn ogystal â chael eu gwahanu yn hytrach na bod eu problemau craidd yn cael sylw.

Mae staff wedi cael eu clywed yn dweud bod y rhai sydd ar ACCT (Asesu Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm) yn ‘chwilio am sylw’ a’u bod yn cymryd llawer o amser gwerthfawr y staff am eu bod yn gorfod gwneud gwaith papur a chynnal asesiadau.

Mae Swyddogion PPO gyda’r Gwasanaeth Prawf wedi holi am sefydliadau sy’n delio’n benodol â gwasanaethau iechyd meddwl, ond mae diffyg gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael; gellid gwella hyn drwy hyfforddiant, rhwydweithio a chysylltiadau addas ag asiantaethau.

Mae diffyg cynllunio ‘drwy’r giatiau’, cymorth a mynediad at asiantaethau perthnasol i’r rhai hynny sy’n cael eu rhyddhau â phroblemau iechyd meddwl. Mae rhai’n cael eu gadael i ymdopi ar eu pen eu hunain, yn enwedig o ran cael gafael ar lety a gwasanaethau iechyd meddwl. Mae gweithwyr proffesiynol wedi eu clywed yn dweud ‘mae’r cleientiaid yma’n boen’ ac ‘mi fyddwn yn eu gwahardd o swyddfeydd am eu bod yn ymosodol’. Mae hyn wedi arwain at alw’n ôl ac aildroseddu. Yn amlwg, mae sylwadau o’r fath yn annerbyniol, beth bynnag fo’r cyd-destun.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld bod llawer o achosion iechyd meddwl yn mynd heb ddiagnosis (mewn carchardai ac yn y gymuned), mae mynediad at driniaeth yn gyfyngedig ac mae gwybodaeth gweithwyr proffesiynol i roi sylw i iechyd meddwl yn annigonol.

Ymatebion o Sir Gaerfyrddin:

Bu dau ddigwyddiad diweddar lle bu’n rhaid cysylltu â’r heddlu.

1). Roedd y cyntaf yn ymwneud â chleient ifanc, benywaidd a Heddlu Sir Gaerfyrddin. Roedd yn ymddangos bod y cleient yn cael pwl seicotig ac roedd yn hunan niweidio. Gwrthododd ymwneud â staff y prosiect, ac wrth i’r staff geisio’i helpu, dechreuodd fandaleiddio’r swyddfa.

Cyrhaeddodd yr heddlu’n gyflym ar ôl cael galwad 999 a symudwyd y cleient o dan Adran 136, gan sicrhau staff y byddent yn ei chludo i’r ysbyty lleol. Fodd bynnag, dywedodd yr heddlu wrth y staff nad oedd yn debygol y byddai’r cleient yn cael ‘unrhyw help realistig’ a’i bod yn hysbys iddynt ers blynyddoedd. Roeddent yn teimlo y dylai gael ei chadw o dan Adran 136 er mwyn ei diogelwch ei hun, ond na fyddai gwasanaethau iechyd meddwl yn gwneud hynny oherwydd ‘diffyg cydymffurfiad blaenorol y client gyda meddyginiaethau a ragnodwyd iddi a’i bod wedi defnyddio canabis’. Aeth yr heddlu â’r cleient i’r ysbyty am nad oedd ambiwlans ar gael a chafodd y cleient ei rhyddhau adref o’r ysbyty dair awr yn ddiweddarach.

Digwyddodd yr ail ddigwyddiad fin nos yn ystod penwythnos, gyda Heddlu De Cymru. Roedd y cleient preswyl wedi cael ei dychwelyd i’r prosiect gan yr heddlu yn dilyn galwadau 999 gan sawl aelod o’r cyhoedd a oedd yn cwyno am ymddygiad gwrthgymdeithasol (gweiddi a dawnsio yn y stryd). 

Mae’n debyg bod y client wedi bod yn defnyddio iaith anweddus a bygythiol ac wedi ymosod ar yr heddlu, a roddodd hi mewn gefynnau coes. Ar ôl siarad â staff y prosiect cytunwyd y byddai’r heddlu’n trefnu i’w chludo i’r ysbyty i gael asesiad iechyd meddwl, ond pan wrthododd yr uned iechyd meddwl ei gweld ‘oherwydd hanes o gam-drin sylweddau’, dywedodd y Rhingyll ar Ddyletswydd wrth yr heddlu bod yn rhaid iddynt ei gadael yn y prosiect yng ngofal y staff ac na fyddai’n gadael i’r heddlu ei harestio.  Nid oedd hyn oherwydd yr ‘ymosodiad’ arnynt, na’r ASB; y farn oedd na fyddai’r heddlu’n gallu cael unrhyw gymorth iechyd meddwl i’r cleient. A bod yn deg â’r swyddogion dan sylw, buont yn y prosiect am sawl awr er mwyn ceisio sicrhau nad oedd y cleient, y preswylwyr eraill nac aelodau’r staff mewn unrhyw berygl ychwanegol.

Rwyf wedi gweld dibyniaeth gynyddol ar yr heddlu i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl i gleientiaid yn ystod y pump neu chwe blynedd diwethaf. Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae’n ymddangos bod gwasanaethau iechyd meddwl yn codi rhwystrau ychwanegol; nid yw’n amlwg i’r rhai hynny ohonom ‘ar y tu allan’ beth yw’r rhesymau am hyn. Rwyf wedi siarad â swyddogion unigol sy’n dweud bod yr heddlu’n cael eu llethu gan yr holl ddigwyddiadau lle mae problemau iechyd meddwl a / neu gamddefnyddio sylweddau’n gysylltiedig â hwy.

2). Yn fy mhrofiad i, mae’r heddlu bob amser yn barod i wrando arnom ni’r staff yn achos ein cleientiaid, ac maent yn eu trin yn briodol. Ni allaf ddweud a yw’r un peth yn wir pan nad ydym o gwmpas i godi llais. Ond mi fyddwn yn dweud bod disgwyl i’r heddlu fod yn arbenigwyr mewn llawer o bethau, gan gynnwys iechyd meddwl, a’u bod yn cael hyfforddiant yn y maes, ond oni ddylai gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol fod ar gael i roi cyngor a chymorth ar unrhyw adeg o’r dydd neu nos? Rwyf wedi clywed am achos lle’r oedd cleient yn bygwth lladd ei hun a bod yr heddlu wedi mynd â’r client i’r ysbyty a’u trin ag urddas. Yn anffodus, dywedodd y Tîm Argyfwng Iechyd Meddwl nad oedd y cleient mewn perygl, ac anfonwyd y cleient adref.

 

Ymateb o Ben-y-bont ar Ogwr:

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dim ond ar ddau achlysur ym Mhrosiect Pobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr mae cleientiaid wedi cael eu cadw gan yr heddlu dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Y tro cyntaf, roedd yr heddlu wedi delio’n sensitif iawn â’r person ifanc ac aethpwyd ag ef o’r hostel. Yr unig beth negyddol oedd eu bod wedi cymryd peth amser i gyrraedd ar y noson.

Yr ail dro dihangodd y person ifanc rhag cael ei gadw o dan y Ddeddf a dychwelodd i’r prosiect. Cafodd yr heddlu eu galw ac roeddent wedi cyrraedd mewn dim o dro. Eto, roeddent yn sensitif iawn ac wedi trin y cleient â pharch.

Ymateb o Wrecsam:

Rwyf yn delio â’r heddlu bob wythnos os nad bob dydd fel rhan o fy rôl; maent yn ymddwyn yn barchus bob amser ac yn barod i helpu.

Ymatebion o Geredigion:

1). Yn ystod y cyfnod diweddar, mae’r heddlu wedi bod yn dda iawn ar y cyfan gyda’n cleientiaid

2). Nid wyf wedi bod mewn llawer o sefyllfaoedd yn y gwaith lle’r oedd perygl y byddai’n rhaid cadw cleient o dan Adran 136 – yr unig ddigwyddiad y gallaf ei gofio a allai fod wedi cyrraedd sefyllfa o’r fath oedd un pan oedd cleient yn bygwth lladd ei hun ac yn awgrymu ei fod yn bwriadu defnyddio cyffuriau i wneud hynny.

Daeth tri phlismon ato a thawelu’r sefyllfa heb orfod gwneud dim arall heblaw siarad â’r cleient. Gwrthododd y cleient gael ei gludo i’r ysbyty, a phenderfynodd yr heddlu nad oedd risg ar y pryd am fod staff yn bresennol i wneud yn siŵr bod y cleient yn ddiogel. Roedd yr heddlu’n fedrus iawn yn y ffordd roeddent yn siarad â’r cleient ac yn egluro’r gwahanol ffyrdd oedd ar gael iddo gael help a chymorth dilynol. Roedd yr heddlu wedi delio â’r cleient mewn ffordd urddasol a pharchus dros ben.

3). Rwyf wedi gweld yr heddlu’n rhyngweithio ag ambell un o’n cleientiaid erbyn hyn; ac maent yn dangos parch cynyddol tuag atynt. Rwyf wedi cysylltu â hwy pan oedd un o’n cleientiaid yn bygwth lladd ei hun ac er bod y cleient wedi gwneud bygythiadau tebyg fwy nag unwaith o’r blaen, roedd yr heddlu wedi ymateb gyda gofal a pharch, gan chwilio am y cleient nes dod o hyd iddo’n cerdded ar hyd y rheilffordd – cafodd y cleient ei gadw o dan Adran 136. Roedd gan ddau gleient penodol gyflyrau iechyd meddwl dwys a pharhaol a phan oeddent yn sâl, gallai eu hymddygiad fod yn rhyfedd ac yn wrthgymdeithasol – roedd yr heddlu’n delio â’r ddau unigolyn dan sylw mewn ffordd dawel a pharchus gan ddangos sensitifrwydd tuag at eu hurddas a’u llesiant.

Roedd grwpiau o blismyn newydd yn arfer dod i’r swyddfa i weld y gwaith rydym yn ei wneud ac roedd yn amlwg eu bod yn dysgu am leihau niwed/caethiwed/problemau iechyd meddwl yn ystod eu hyfforddiant. Roedd yn ymddangos bod plismyn iau wedi’u hyfforddi’n well i ddelio â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed ac roeddent yn llai beirniadol o ddigartrefedd. Mi wn fod yr heddlu’n pwyso am ddarpariaeth 136 gwely mewn prosiect gwahanol – ein huned iechyd meddwl lleol – gan nad oes un wedi bod yno ers rhai blynyddoedd; mae’r heddlu wedi bod yn cludo pobl i Gaerfyrddin.

Mae’n ymddangos mai’r hyn mae’r tîm argyfwng yn ei wneud yw trosglwyddo cyfrifoldeb yn ôl i asiantaethau am nad ydynt yn awyddus iawn i ddelio â chleientiaid â diagnosis deuol, lle mae’r heddlu ar y llaw arall yn barod i ddelio â phobl beth bynnag fo’r amgylchiadau a beth bynnag fo’u symptomau. Mae’r heddlu wedi gorfod ymyrryd ar sawl achlysur gan mai dyna’r ffordd gyflymaf fel arfer o wneud yn siŵr bod rhywun yn cael ei weld.

4). Y prif bwynt i’w nodi yn fy marn i oedd diffyg cefnogaeth y Tîm Argyfwng ar ôl i mi atgyfeirio rhywun roeddwn yn bryderus yn ei gylch. Dywedwyd wrthyf os oedd yr heddlu’n codi’r cleient y byddent yn ei weld yng ngorsaf yr heddlu ar unwaith. Dywedwyd wrthyf mai dyma’r ffordd gyflymaf o gael help, ac i mi mae hynny’n annog pobl â phroblemau iechyd meddwl i gael eu gweld fel troseddwyr. Oni ddylai timau iechyd meddwl fod yn ymdrechu i ganfod pobl cyn iddynt gyrraedd y pwynt lle mae’n rhaid i’r heddlu ymyrryd?

Ar y llaw arall, mae agweddau tuag at ein grŵp cleientiaid wedi gwella ar y cyfan ac maent yn cael eu trin yn fwy trugarog a sensitif, a hynny er bod modd gweld eu hymddygiad fel un ymosodol.

5). Fel rwyf fi’n gweld pethau, dyma drefn digwyddiadau fel arfer:

·         Staff yn pryderu am iechyd meddwl cleient 

·         Y preswylydd yn gwrthod gweld meddyg teulu na mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys

·         Staff yn cysylltu â’r Tîm Argyfwng; weithiau bydd ateb, dro arall, dim ateb. Y Tîm Argyfwng yn gwrthod dod i’r prosiect i asesu’r preswylydd;

·         Y preswylydd yn mynd yn fwy a mwy cythryblus ac mae pryderon wedyn am ddiogelwch preswylwyr eraill

·         Staff yn ffonio am ambiwlans – gall y preswylydd adael i gael ei asesu ar yr adeg hon, neu fe’i hysbysir na fydd y Tîm Argyfwng yn barod i’w weld os yw’n feddw

·         Mae’r preswylydd yn dychwelyd i’r prosiect heb gael ei asesu gan ei fod yn gorfod aros yn rhy hir cyn gweld y Tîm Argyfwng neu am eu bod yn cael eu hysbysu eu bod yn rhy feddw

·         Mae ymddygiad y preswylydd yn achos pryder i breswylwyr eraill

·         Mae’r heddlu’n cael eu galw; os gallant ddarbwyllo’r Rhingyll bod yr unigolyn mewn perygl neu fod trosedd wedi’i chyflawni (neu’n debygol o gael ei chyflawni) gellir eu cludo i Gaerfyrddin i gael eu hasesu

·         Os nad yw’r preswylydd yn ateb y meini prawf i gael ei gludo i Gaerfyrddin, yna gall yr heddlu hefyd fynd â hwy i’r orsaf fel man diogel, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau.

 

Yn fy mhrofiad i mae’r heddlu wedi bod yn help ac yn gymwynasgar iawn pan fydd preswylydd mewn argyfwng, ond mae’n amlwg eu bod yn teimlo’n rhwystredig gyda’r ffordd yr ymdrinnir â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r heddlu’n llawer mwy o help ac yn fwy ymatebol na’r Tîm Argyfwng pan fydd cleient mewn argyfwng. Mae’r heddlu’n helpu staff i chwilio am atebion er mwyn i’r unigolyn mewn argyfwng gael triniaeth. Mae’n ymddangos mai’r unig beth mae’r Tîm Argyfwng yn ei wneud yw codi rhwystrau sy’n atal pobl mewn angen rhag cael mynediad at eu gwasanaethau.